Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

CELG(4)-06-11 : Papur 2

 

Y gyllideb ddrafft ar gyfer yr Iaith Gymraeg yn y portffolio Addysg a

Sgiliau

 

Diben

 

  1. Darparu papur tystiolaeth i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am y dyraniad yn y gyllideb ddrafft ar gyfer yr Iaith Gymraeg yn y portffolio Addysg a Sgiliau ar gyfer 2012-13.

 

  1. Mae’n bwysig nodi mai ffigurau ar gyfer rhaglenni penodol yw’r ffigurau a amlinellir yn y papur. Nid oes modd darparu ffigurau ar gyfer costau cyffredinol hyrwyddo’r iaith, gan fod dwyieithrwydd yn rhan annatod o weledigaeth Llywodraeth Cymru a chan fod darparu gwasanaethau dwyieithog yn cael ei brif ffrydio ar draws ei holl feysydd gwaith.

 

Yr amserlen

  1. Cyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ar 4 Hydref 2011.

 

Y Gyllideb Ddrafft Addysg a Sgiliau ar gyfer 2012-13

  1. Mae Cyllideb Ddrafft 2012-13 yn gynllun tair blynedd ar gyfer buddsoddi mewn addysg a sgiliau yng Nghymru. Mae Tabl 1 yn drosolwg o’r gyllideb arfaethedig neu’r 'prif grŵp gwariant' (MEG) ar gyfer Addysg a Sgiliau, ac mae hefyd yn dangos y newidiadau a wnaed i'r gyllideb ddangosol ers i'r Gyllideb Atodol ddiwethaf (a oedd yn ailddatgan y gyllideb Addysg a Sgiliau gan ystyried newidiadau a wnaed i bortffolios ers y Gyllideb Derfynol) gael ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2011.

 

Tabl 1:  Y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Addysg a Sgiliau

 

 

2012-13

2013-14

2014-15

 

Y Gyllideb a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2011

Atodol

Mehefin 2011

Newidiadau

Y Gyllideb Arfaethedig

Atodol

Mehefin 2011

Newidiadau

Y Gyllideb Arfaethedig

Atodol

Mehefin

2011

Newidiadau

Y Gyllideb Arfaethedig

 

£m

£m

£m

£m

£m

£m

£m

£m

£m

£m

Refeniw

1,630.2

1,627.6

20.6

1,648.2

1,647.6

27.2

1,674.8

1,647.6

34.8

1,682.4

Cyfalaf

169.9

161.3

0

161.3

143.8

0

143.8

143.8

0

143.8

Cyfanswm y Terfyn Gwariant Adrannol (DEL)

1,800.1

1,788.9

20.6

1,809.5

1,791.4

27.2

1,818.6

1,791.4

34.8

1,826.2

 

Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME)

125.3

122.3

28.2

150.5

112

49.3

161.3

112

41.3

153.3

CYFANSWM

1,925.4

1,911.2

48.8

1,960.0

1,903.4

76.5

1,979.9

1,903.4

76.1

1,979.5

 

 

  1. Mae gwybodaeth fanwl am y gyllideb Addysg a Sgiliau yn ei chyfanrwydd i’w gweld mewn papur tystiolaeth tebyg a baratowyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 12 Hydref.

 

Uned yr Iaith Gymraeg/Comisiynydd y Gymraeg

 

  1. Cymeradwywyd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Rhagfyr 2010 a chafodd Cydsyniad Brenhinol ar 9 Chwefror 2011. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn darparu ar gyfer diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac ar gyfer sefydlu Comisiynydd y Gymraeg yn 2012. Bydd newidiadau mawr yn sgil y Mesur. Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei benodi, a Thribiwnlys y Gymraeg yn cael ei sefydlu, yn ogystal â system newydd o Safonau yn ymwneud â’r Gymraeg.

 

  1. Roedd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-14, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2010, yn cynnwys cyfanswm y cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12 a’r ffigurau dangosol ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2012-13 a 2013-14. Cafodd hyn ei gadarnhau hefyd yn Llythyr Cylch Gwaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer blwyddyn ariannol 2011-12. 

 

http://wales.gov.uk/docs/drah/publications/20110414remitlettertoWLB2011cym.pdf

 

  1. Caiff y dyraniadau arfaethedig ar gyfer cyllideb Uned yr Iaith Gymraeg eu dangos yn y tabl isod. Bydd y dyraniadau ar gyfer 2012/13 a 2013/15 yn cael eu rhannu rhwng Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru (fel y trafodir isod):

                       

Tabl 2 – Dyraniadau’r Gyllideb Refeniw

 

2011/12

£000

2012/13

£000

2013/14

£000

2014/15

£000

Costau Rhedeg

 4,427

 4,427

 4,427

4,427

Gwariant Presennol

9,446

9,546

9,646

9,646

Derbynebau Presennol

  (200)

 (200)

 (200)

(200)

Gwariant Cyfalaf

50

100

100

100

Dibrisiant

131

131

131

131

Prosiect yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia

54

54

54

54

Cyhoeddusrwydd Cymraeg

20

20

20

20

Cyfanswm

13,928

14,078

14,178

14,178

 

9. Caiff llinell wariant bresennol Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei dosbarthu fel a ganlyn yn ystod blwyddyn ariannol 2011-12:

 

·         Caiff £2.87m (30%) ei ddosbarthu i awdurdodau lleol i hybu addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog;

·         Caiff £4.60m (49%) ei ddosbarthu fel grantiau er mwyn hybu’r iaith;

·         Caiff £1.98m (21%) ei ddyrannu i brosiectau.

 

10. Caiff y cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o grantiau a phrosiectau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2012. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb am ddatblygu cymunedol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys grantiau i fudiadau Cymraeg fel yr Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Mudiad Ysgolion Meithrin a’r Mentrau Iaith. 

 

11. Bydd Swyddfa’r Comisiynydd yn gyfrifol am Safonau, Terminoleg, Cyfieithu a Thechnoleg – a hefyd am weithredu’r system newydd o Safonau yn ymwneud â’r Gymraeg.  

 

12. Bydd y cynnydd dangosol ar gyfer Uned yr Iaith Gymraeg ar ei ffurf estynedig/Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn hwyluso’r gwaith o weithredu’r strategaeth iaith Gymraeg arfaethedig. Mae fersiwn terfynol y strategaeth wrthi’n cael ei gwblhau. Cynhaliwyd proses ymgynghori ynghylch y strategaeth ddrafft rhwng 13 Rhagfyr 2010 a 4 Chwefror 2011. Cyhoeddodd y cyn Weinidog Treftadaeth ddatganiad ar 22 Mawrth 2011 yn crynhoi’r prif themâu a gododd yn ystod y broses ymgynghori ac yn amlinellu’r camau a fyddai’n cael eu cymryd dros y flwyddyn wrth i’r strategaeth a’r cynllun gweithredu cysylltiedig gael eu cwblhau’n derfynol.

 

13. Bydd y strategaeth derfynol yn adlewyrchu cynnwys Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac yn ategu’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (gweler isod).

 

14. Bydd y strategaeth newydd, ar ei ffurf derfynol, yn disodli’r cynllun gweithredu cenedlaethol presennol ar gyfer Cymru ddwyieithog, sef Iaith Pawb.

 

15. Mae’r strategaeth ddrafft yn cynnwys chwe nod strategol:

§ Cryfhau statws y Gymraeg o fewn y gymuned;

§ Annog teuluoedd i drosglwyddo’r iaitha’u cynorthwyo i wneud hynny;

§ Cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a hybu eu gwerth yn eu mysg;

§ Gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer pobl Cymru;

§ Cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle; a

§ Cryfhau seilwaithyr iaith.

 

16. Caiff y costau rhedeg eu diogelu er mwyn hwyluso’r broses o sefydlu swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a throsglwyddo swyddogaethau i Lywodraeth Cymru.

 

17. Nid yw’r broses o ddosbarthu’r cyllid rhwng Uned yr Iaith Gymraeg a Chomisiynydd y Gymraeg wedi’i chwblhau hyd yn hyn. Mae’r trafodaethau manwl am drefniadau’r gyllideb yn y dyfodol yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd, ond rhagwelir mai cyllideb flynyddol y Comisiynydd fydd tua £4 miliwn, a bydd Llywodraeth Cymru yn cadw tua £9 miliwn o gyllideb bresennol Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

 

18. O’r £9 miliwn hwnnw fydd Llywodraeth Cymru yn ei gadw, caiff tua £4 miliwn ei ychwanegu at linell gyllideb Cymraeg mewn Addysg (Datblygiad yr Iaith Gymraeg gynt), a bydd yr hyn sy’n weddill yn cael ei weinyddu gan Uned yr Iaith Gymraeg.

 

19. Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol ar y cyd am y prosiect o reoli’r gwaith o drosglwyddo i’r trefniadau newydd, gan gynnwys y gwaith parhaus o bennu’r cyllidebau’n derfynol.

 

Prosiect Addysgu’r Iaith Gymraeg ym Mhatagonia (£54,000)

 

20.Caiff y cyllid hwn ei ddarparu gan Gyngor Prydeinig Cymru sy’n rheoli’r prosiect iaith Gymraeg ym Mhatagonia ar ran Llywodraeth Cymru. Caiff y prosiect ei reoli gan y Cyngor Prydeinig mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cymru-Ariannin a Chanolfan Cymraeg i Oedolion - Caerdydd a Bro Morgannwg, Prifysgol Caerdydd.

 

21. Mae’r prosiect hwn yn caniatáu i athrawon fynd ar secondiad i gymunedau targed allweddol ym Mhatagonia, datblygu athrawon brodorol, sefydlu cyrsiau wedi’u strwythuro a hyrwyddo gweithgareddau yn yr iaith Gymraeg. 

 

Y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg – cyllideb ddatblygu

 

22.Mae darpariaeth barhaus y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ymrwymiad allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2011-16. Mae’r Strategaeth yn amlinellu agenda hirdymor ar gyfer datblygiad parhaus addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ac yn yr iaith Gymraeg. Felly bydd gweithredu’r strategaeth yn llwyddiannus yn gofyn am fuddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru. Y mae wedi bod yn weithredol ers mis Mai 2010 a chyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf ar gynnydd y broses weithredu ym mis Gorffennaf 2011.

 

23.Mae rhai cyflawniadau pwysig yn ystod y flwyddyn gyntaf o’i gweithredu yn cynnwys:

·         Gwaith datblygu pwysig i wella’r broses o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys sefydlu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac ymgynghori’n anffurfiol arnynt;

·         Uno grantiau er mwyn creu un grant Cymraeg mewn Addysg sydd â ffocws newydd a fydd yn helpu awdurdodau lleol i fodloni’r amcanion a ddisgwylir ohonynt yn unol â’r hyn a amlinellwyd yn y Strategaeth o 2012 ymlaen;

·         Parhau i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys darpariaeth alwedigaethol ar gyfer yr ystod oedran 14-19;

·         Buddsoddiad sylweddol yn y fframwaith cenedlaethol ar gyfer hyfforddi ymarferwyr drwy’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg; 

·         Cefnogaeth barhaus ar gyfer rhoi cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg drwy’r rhaglen Cymraeg i Oedolion; a

·         Comisiynu adnoddau dysgu ac addysgu cyfrwng Cymraeg.

 

24.Y gyllideb gyfredol a bennwyd ar gyfer gweithredu’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yw £12.377 miliwn fesul blwyddyn ariannol (Llinell Wariant y Gyllideb Datblygu’r Iaith Gymraeg 5164). O 2011-12 ymlaen, bydd yn cynnwys £2.28 miliwn er mwyn ariannu’r Grant Cymraeg mewn Addysg newydd (WEG). Ar gyfer 2011-12, mae’r Grant Cymraeg mewn Addysg yn gweinyddu cyllideb a ddarparwyd yn y gorffennol gan yr elfen iaith Gymraeg o’r Gronfa ysgolion Gwell (Ardal Blaenoriaeth 2). Ar gyfer blynyddoedd y dyfodol, bydd hefyd yn cyfuno cyllid a ddarparwyd gan grantiau sy’n cael eu gweinyddu ar hyn o bryd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

 

25.Yn ogystal â’r gyllideb benodol ar gyfer y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, caiff y cyllid ar gyfer addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ei brif ffrydio hefyd yn rhan o bolisïau a rhaglenni sy’n cael eu rheoli gan dimau eraill ar draws AdAS.

 

26.Mae’r cyllidebau dangosol yn dangos y caiff y gyllideb ar gyfer gweithredu’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ei diogelu ar y lefelau presennol. Bydd hyn yn galluogi i lawer o waith datblygu gael ei wneud er mwyn cefnogi’r pwyntiau gweithredu sydd wedi’u blaenoriaethu a’u pennu yn y Strategaeth. O 2012-13 ymlaen, caiff cyllid o oddeutu £4 miliwn ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru o Fwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn galluogi i gyfrifoldebau presennol y Bwrdd mewn perthynas ag addysg gael eu trosglwyddo.

 

27.Dangosir yn y tabl isod y prif feysydd gwaith sy’n cael eu hariannu gan  gyllideb y Strategaeth Cymraeg mewn Addysg ar gyfer 2011-12:-

 

Tabl 3 Y prif feysydd gwaith sy’n cael eu hariannu gan  gyllideb y Strategaeth Cymraeg mewn Addysg ar gyfer 2011-12

 

 

Gwariant

Gwella cynlluniau addysg cyfrwng Cymraeg a datblygu’r ddarpariaeth (gan gynnwys 14-19, Colegau Addysg Bellach)

£1.450m

Grant Cymraeg mewn Addysg

£2.280m

Datblygu sgiliau ieithyddol (gan gynnwys Cymraeg i Oedolion ac ymyriadau ar gyfer Cymraeg fel ail iaith)

£2.840m

Hyfforddiant i ymarferwyr (gan gynnwys y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg)

£2.907m

Comisiynu adnoddau addysgu a dysgu

£2.900m

 

£12.377m*

* Caiff swm ychwanegol o oddeutu £4 miliwn ei ychwanegu at y gyllideb hon yn 2012-13 ar gyfer grantiau sy’n cael eu gweinyddu ar hyn o bryd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i’r Mudiad Meithrin, i awdurdodau lleol ar gyfer athrawon bro (athrawon peripatetig arbenigol yn y Gymraeg) ac ychydig o grantiau addysg bychan iawn.

 

28. Nid oes cynlluniau i wneud newidiadau mawr ar gyfer 2012-13 er y bydd cyfran y gyllideb i’w defnyddio i gefnogi pob un o’r meysydd allweddol uchod yn amrywio yn ôl y camau gweithredu sydd wedi’u blaenoriaethu ar gyfer eu hystyried yn ystod 2012-13. Bydd yr holl wariant yn cyd-fynd yn glir â chwe nod strategol y Strategaeth.

 

Gwariant ar y Gymraeg o fewn Rhaglenni eraill ym Mhrif Grŵp Gwariant (MEG) Addysg a Sgiliau

 

29. Mae Tabl 4 yn cynnwys gwybodaeth ynghylch dosbarthu cyllid ar brosiectau’n ymwneud â’r Gymraeg o fewn rhaglenni eraill ym Mhrif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau yn ystod blwyddyn ariannol 2011/12. Nid yw’r gyllideb ar gyfer 2012-13 wedi’i dadgyfuno eto islaw lefel y Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL).

 

Tabl 4 Gwariant ar y Gymraeg o fewn Rhaglenni eraill ym Mhrif Grŵp Gwariant (MEG) Addysg a Sgiliau

 

O fewn Meysydd Rhaglenni Gwariant (SPAs) Rhaglenni eraill

2011/12

 

£000

BEL Er Mwyn Ein Dyfodol

 

  Coleg Cymraeg Cenedlaethol

3,150

  Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg

130

BEL Darpariaeth i Ddysgwyr

 

  Cymraeg i Oedolion/Canolfannau Cymraeg i Oedolion

10,288

BEL Cymwysterau

 

Cymwysterau Cyfrwng Cymraeg (WMES)

757

BEL Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

  Pecyn Cymorth Asesiadau Cymraeg

30

BEL Y Cyfnod Sylfaen

 

  Iaith Pawb (Hyfforddiant i Ymarferwyr Cyfrwng Cymraeg)

2,000

BEL Llythrennedd a Rhifedd

 

  Grant Cyngor Llyfrau Cymru

169

BEL Dysgu 14-19

 

   Elfen Cyfrwng Cymraeg y dyraniadau ar gyfer Cynlluniau Datblygu Cenedlaethol

1,200

BEL Recriwtio Athrawon

 

Cydymffurfio â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion

65

  Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg

280

 

18,069

 

Crynodeb

 

30. Cyflwynir dyraniad y gyllideb ddrafft ar gyfer y Gymraeg o fewn y portffolio Addysg a Sgiliau am 2012-13 gerbron y pwyllgor i’w ystyried.